top of page

Adloniant | Merch y Wlad ar y Bocs

Adloniant | Merch y Wlad ar y Bocs

Melanie Carmen Owen yw cyflwynydd newydd Ffermio

Byw'r Freuddwyd
Mae cyflwynydd newydd rhaglen deledu ffermio Cymraeg wedi dweud ei bod hi’n “anhygoel o falch” o fod yn rhan o’r rhaglen ac yn falch nad oedd ei hethnigrwydd “yn rhan o’r sgwrs”.
Wrth i Melanie Carmen Owen gyhoeddi mai hi oedd wyneb newydd rhaglen Ffermio ar S4C fe bostiodd “draethawd emosiynol” i’r cyfryngau cymdeithasol yn dweud ei bod yn falch o gael ei dewis yn “Gymraes sy’n frwd dros amaethyddiaeth”.
“Mae bod ar Ffermio yn dipyn o freuddwyd wedi’i gwireddu,” meddai Melanie. “Rwy’n cael rhannu fy mewnwelediad i’r byd y cefais fy magu ynddo a’r gymuned rwy’n teimlo mor falch o fod yn rhan ohoni.
“Rwy’n edrych ymlaen at sgwrsio â llawer o ffermwyr ifanc a chael gwybod beth yw gwir deimlad y genhedlaeth nesaf am y dirwedd amaethyddol yng Nghymru. Mae gan ffermio yng Nghymru botensial ar gyfer dyfodol gwych, felly alla i ddim aros i gwrdd â’r meddyliau ifanc hynny a fydd yn gyrru hynny yn ei flaen.

“Rwy’n bersonol yn teimlo’n hynod ddiolchgar i S4C a Telesgop, nid yn unig am fy newis i, ond am beidio â gwneud hyn am fy mod i’n frown. Rwy'n rhygnu ymlaen am gynrychiolaeth drwy'r amser, oherwydd cefais fy magu heb weld fy hun yn cael fy adlewyrchu yn y cyfryngau Cymreig ac roedd hynny'n bendant yn effeithio ar sut roeddwn i'n edrych ar fy hun a fy hunaniaeth Gymreig.
“Ond mae’n rhaid i’r gynrychiolaeth fod yn ddilys. Nid yw S4C na Telesgop hyd yn oed wedi codi fy ethnigrwydd unwaith, oherwydd maent wedi cydnabod fy mod yn fwy na chyflwynydd hil-gymysg. Rwy’n fenyw ifanc o deulu ffermio sydd ag angerdd am amaethyddiaeth a’i dyfodol yng Nghymru.
“Gobeithio y gallaf ddefnyddio’r rhinweddau hynny i ddod â lleisiau ffermwyr y dyfodol yng Nghymru i’r amlwg.”

Y fagwraeth orau erioed
Wrth dyfu fyny yn ardal Aberystwyth, mae Melanie’n cyfaddef, pryd bynnag nad oedd hi’n ysgol, roedd hi allan ar y fferm.
“Roeddwn i’n hoffi meddwl fy mod i’n helpu, ond mewn gwirionedd dwi’n credu roedd fy rhieni neu fy Nain a Dadcu yn rhoi jobs i fi i ‘nghadw i’n brysur. Rydw i mor ddiolchgar am hynny, achos mae fy magwraeth wledig wedi dysgu fi i weithio’n galed.
“Dydw i erioed wedi cwrdd â phobl sy’n gweithio mor galed â phobl cefn gwlad. Dim amser gen ti i neud rhywbeth? Wel, well i ti godi awr yn gynt te!” meddai.
“Mae’n ddoniol achos mae fy nghyd-bodledwyr Mali a Jalisa (Mel Mal Jal) o hyd mewn sioc pan rydw i’n dweud wrthyn nhw gymaint rydw i wedi cyflawni yn y bore cyn iddyn nhw hyd yn oed codi. Ond dyna ymagwedd wledig i ti!
“Paid â ‘nghael i’n rong, dydw i ddim yn dawnsio allan o’r gwely am 5yb – mae angen tawelwch cyn fy nghoffi cyntaf. Ond mae gen i’r gallu i weithio mor galed ag sy angen heb esgusodion – dyna ddylanwad bywyd gwledig.”

‘Mae llwyddiant rownd y gornel’
Fel unig blentyn, yn wahanol i beth mae pawb yn ei gredu, meddai, doedd bywyd ddim yn ddiflas. Roedd rhywbeth i’w wneud o hyd.
“Roedd pethau i wneud ar y ffarm, roedd gen i’r ceffylau i farchogaeth a gofalu amdanyn nhw. Roeddwn i’n aelod o gangen leol y Pony Club felly wnaeth hynny roi grŵp o ffrindiau ychwanegol i fi,” meddai.
“Mae jyst gymaint o brofiadau bythgofiadwy ac unigryw yn y byd amaethyddol. Pan roedd fy nghefndryd o’r ddinas yn dod i aros gyda ni yn Aberystwyth, roeddwn i o hyd mor falch o’r ardal ac yn enwedig o’r ffarm.
“Roeddwn i’n cael real ‘main character moment’ pan oedd y cefndryd yn dod ac roeddwn i’n eu dangos nhw rownd y ffarm – roedd ymatebion nhw yn atgoffa fi o ba mor arbennig yw hi i gael byw yn y byd amaethyddol.”
Ac wrth ddilyn ei breuddwydion at le mae hi heddiw? Mae gan Melanie gyngor da i bawb.
“Byddwch yn barod i glywed ‘na’, neu ‘dim reit nawr’ drosodd a throsodd. Mae methiant yn rhan enfawr o lwyddo,” meddai.
“Os wyt ti’n methu neu glywed ‘na’, gofyn i dy hunan os oedd yna rywle base ti wedi gallu gwella, wedyn gweithia ar hynny a cheisio eto.
“Ddarllenais i’n rhywle bod Beyonce wedi colli yn y Grammy Awards 48 waith – serch hynny mae ganddi hi 26 Grammy sydd yn gwneud hi'r ddynes fwyaf llwyddiannus yn hanes y Grammys.
“Dydy’r 48 colled ddim yn tynnu’r 26 buddugoliaeth i ffwrdd oddi wrthi hi! Maen nhw jyst yn rhan o’r stori am sut ddaeth hi i lwyddo.
“Dyna beth rydw i’n cofio bob tro dydy pethau ddim yn mynd y ffordd basen i wedi eisiau. Cofiwch, mae’r llwyddiant rownd y gornel!”

Adloniant | Merch y Wlad ar y Bocs
bottom of page